Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:22 - 11:58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans Janet Finch-Saunders Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Fiona Jenkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Pushpinder Mangat, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Geoffrey Carroll, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Dr Philip Webb, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Pete Phillips, Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol Mark Roscrow, NHS Shared Services Partnership Alun Tomkinson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Janet Finch-Saunders i'r Pwyllgor ac estynnodd ddiolch i William Graham am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.
2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6
2.1 Atebodd Fiona Jenkins o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Pushpinder Mangat o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Dr Geoffrey Carroll a Dr Philip Webb o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.
2.2 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd Dr Webb i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu un argymhelliad allweddol y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwella'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru a sut y gellid cyflawni hyn.
3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 7
3.1 Atebodd Mark Roscrow o Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Pete Phillips o'r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, ac Alun Tomkinson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2014.
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch gwaith craffu effeithiol y Pwyllgor ar y Gyllideb a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ateb y Pwyllgor Busnes a chadarnhau bod y Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o broses y gyllideb
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafodaeth breifat ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar Waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
7 Ystyried dull gweithio’r Pwyllgor ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod a chytunodd ar ei ddull gweithio ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.